homess1

Ein Bro

image

Ein Cymuned

Ardal y Cyngor

Mae tair ward yn y Gymuned – Aber-soch; Llanengan sy’n cynnwys y pentref ei hun, Bwlchtocyn, Cilan, Sarn Bach; Llangian sy’n cynnwys y pentref ei hun a Mynytho sy’n ymestyn at Nanhoron. Afon Horon yw’r ffin rhwng Cynghorau Cymuned Llanengan a Botwnnog.

Ychydig Hanes

Cantref Llŷn

Enw cantref hanesyddol yng ngogledd-orllewin Cymru sy'n cyfateb yn fras i'r hyn a elwir 'Pen Llŷn' heddiw yw Llŷn.

Cantref wedi'i amgylchynu gan y môr ar ddwy ochr yw Llŷn, yn sefyll ar wahân ac yn wynebu de-ddwyrain Iwerddon ar draws y Môr Celtaidd. Ffinia ag Arfon ac Eifionydd yn y dwyrain. Credir y tardda’r enw ‘Llŷn’ o ‘Leinster’ a gwyddys fod mewnfudwyr o'r rhan honno o'r Ynys Werdd wedi ymsefydlu mewn rhannau o Lŷn o Oes yr Haearn ymlaen.

Rhannwyd y cantref yn dri chwmwd, sef Dinllaen, Cymydmaen a Chafflogion. Roedd gan bob cwmwd lys barn a gynhelid yn y faerdref – Nefyn yn Ninllaen, Neigwl yng Nghymydmaen a Phwllheli, tref fechan ganoloesol yr adeg honno, yng Nghafflogion. Roedd y ‘trefi’ eraill yn cynnwys Aber-soch (Soch), Castellmarch a Phenyberth. O fewn y cantref ceid y clas neu fynachlog Geltaidd gynnar yn Aberdaron ac Ynys Enlli.

Roedd Llŷn yn gartref i lwyth Celtaidd o'r enw y Gangani. Ceir sawl bryngaer yn Llŷn a berthynai iddynt, er enghraifft ym ‘Mortin-llaen’, ‘Carn Fadryn’ a ‘Thre’r Ceiri’ ar Yr Eifl. Safai'r olaf ar y ffin rhwng Llŷn a chantref Arfon.

Cwmwd Cafflogion

Un o dri chwmwd (sef ardal ddaearyddol ac uned weinyddol yng Nghymru’r Oesoedd Canol) cantref Llŷn, teyrnas Gwynedd, oedd Cafflogion. Dywedir iddo gael ei sefydlu gan Afloeg, un o feibion Cunedda Wledig. Gorweddai ar lan Bae Ceredigion, rhwng Ynysoedd Tudwal ac Afon Erch. I'r gorllewin gorweddai cwmwd Cymydmaen a phenrhyn eithaf Llŷn ac, i'r dwyrain, roedd y trydydd cwmwd, Dinllaen.

O'r gair cwmwd y ffurfiwyd y gair 'cymydog', sef "rhywun sy'n byw yn yr un cwmwd â chi".

Gorweddai cwmwd Cafflogion, fel ei gymdogion, ar un o lwybrau'r pererinion i Enlli, ond roedd yn llai prysur na'r llwybr gogleddol trwy Ddinllaen. Roedd y canolfannau eglwysig yn cynnwys Penrhos, Llanfihangel Bachellaeth, Llaniestyn, Llanbedrog a Llangïan.