Y Cyngor
Amaethyddiaeth a thwristiaeth yw asgwrn cefn yr economi leol, sy’n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Llŷn ac Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau. Mae’r ardal yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr wrth iddynt heidio i draethau godidog Borth Fawr, Machros, Tywyn y Fach, Porth Ceiriad a Phorth Neigwl. Cânt hefyd hwylio a cherdded ei llwybrau ag amryw ohonynt yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru â’i olygfeydd godidog o Ynysoedd Sant Tudwal, Bae Tremadog a mynyddoedd Eryri. Mae yma amrywiaeth o siopau a llety, yn ogystal â bwytai a thafarndai sy’n cynnig prydau diddorol a blasus – Indiaidd, Eidalaidd, Mecsicanaidd a Gwlad Tai.
Bro Gymraeg yw Cymuned Llanengan gyda’r iaith a’r diwylliant yn greiddiol i’w hunaniaeth. Felly, dewch i’r ardal i brofi ein diwylliant unigryw, hanes diwylliannol cyffrous a chyfoethog, traethau a golygfeydd ysblennydd. Ni chewch eich siomi.
Menter Rabar – Ysgol Abersoch
Cofnodion
Diweddaraf
Sedd Wag Achlysurol – Ward Abersoch
RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn Ward Abersoch ar Gyngor Cymuned Llanengan.
Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r wardiau uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ddydd Gwener, Chwefror 28ain, 2025.
Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.