Dyletswyddau
Yr ydych yma: Y Cyngor > Dyletswyddau
Cyfrifoldebau
Disgrifiad cyffredinol o gyfrifoldebau a gweithgareddau Cyngor Cymuned Llanengan.
Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor ar yr ail nos Fercher o bob mis yng Nghanolfan Gymdeithasol Llanengan am saith o’r gloch; mae’r cyfarfodydd hyn ar agor i’r cyhoedd. Anogir aelodau o’r cyhoedd gysylltu â’r Clerc â’u sylwadau neu bryderon a chred y Cyngor ei bod yn hanfodol cael perthynas dda â’r cyhoedd.
Mae’r Cyngor yn gyfrifol am ddarparu amrywiaeth o wahanol wasanaethau o fewn yr ardal a gynrychiola a gweithreda’n agored a thryloyw er budd ac ar ran y gymuned gyfan.
Rhai o'r cyfrifoldebau yw:
- gosod y praesept, sef y dreth a ddosberthir i'r Cyngor bob blwyddyn
- cyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd
- cynnal a chadw ei diroedd a'i eiddo, sef Caeau Chwarae Aber-soch a Mynytho, Estyniad Mynwent y Bwlch, Toiledau Cyhoeddus Lôn Traeth, llochesi bws Bwlchtocyn a Nanhoron, Llain y Pentref a Foel Gron, Mynytho, a'r llwybrau cyhoeddus (ad-delir cyfran o gost eu cynnal gan Gyngor Gwynedd)
- cyfrannu at geisiadau am nawdd ddwy waith y flwyddyn (Hydref a Mawrth) oddi wrth elusennau/grwpiau/mudiadau ar yr amod y derbynnir mantolen ariannol gyfredol, yn unol â Pholisi/Rheoliadau Ariannol y Cyngor
- hysbysu adrannau perthnasol Cyngor Gwynedd am gyflwr ffyrdd, pontydd, goleuadau stryd, hawliau tramwy a.y.y.b.
- cynrychiolir y Cyngor ar gyrff llywodraethol Ysgolion Aber-soch, Foel Gron a Sarn Bach, ynghyd ag Ymddiriedolwyr Capel Newydd, Nanhoron
- gweithia’r Cyngor mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a gwirfoddol er lles yr amgylchedd a’r gymuned.